Llongyfarchiadau i staff a phlant Ysgol Llanfihangel y Creuddyn ar ddathlu penblwydd yr ysgol mewn steil ! Da iawn chi wir. Cafwyd diwrnod a hanner!! Roedd yr ysgol yn byrlymu efo hen hanes a straeon diddorol a phawb yn ymfalchio yn eu cysylltiadau a’r ysgol wrth hel atgofion am y dyddiau a fu – gan hefyd fwynhau talentau y to^ presennol. Edrychwn ymlaen yn awr at lawnsiad Llyfr y Dathlu yn hwyrach yn y flwyddyn. Pob lwc yn awr i’r ysgol i’r dyfodol.